Search the site

Enter keywords in the box below:

Your privacy is very important to us, we've therefore updated our privacy policy for the website to be fully compliant with GDPR. You can see the policy by clicking here.

Privacy Policy

Archebu

Bydd yr doleni archebu yn ymddnagos yma:

Bydd y prif gyfarfodydd yn digwydd yn y neuadd fawr – gofod mawr iawn sydd fel arfer yn dal dros 1000 o bobl. Ond oherwydd canllawiau cofid-19, ac er mwyn cadw pawb yn saff, dim ond lle i tua 200 fydd ar gael, ac mae’n ofynnol i ni osod pawb yn yr ystafell yn eu grwpiau (gyda 2m o ofod rhyngddynt).

Dyma pam y mae angen archebu eleni, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Ganolfan y Celfyddydau sydd yn rhedeg y system archebu ar ein rhan. Deallwn ei fod ychydig yn chwithig archebu lle yn y modd hyn, ond rhaid oedd ffeindio ffordd i wneud y cyfan yn saff ac yn drefnus. Cost pob cyfarfod fydd £5 i oedolyn a £2 i blentyn. Bydd yr archebion yn agor am 10 y bore ar Fehefin 30. Bydd yr holl fanylion ar wefan MEC. Gofynnwn i chi sylwi ar yu canlynol:

  • Plis archebwch yn eich teulu estynedig/swigen, er mwyn sicrhau ein bod yn medru ffitio gymaint a phosib i bob cyfarfod.
  • Rydym yn rhedeg system docynnau ar gyfer pob cyfarfod – gellir archebu i fwy nag un cyfarfod drwy ddefnyddio’r botwm ‘Book more tickets’ fydd yn gadael i chi ddewis tocynnau ar gyfer yr anerchiadau eraill.
  • Bydd angen talu am y tocynnau wrth archebu.
  • Gellir hefyd archebu drwy ffonio’r swyddfa docynnau yn Aberystwyth.
  • Wrth archebu, gofynnir i chi os hoffech gyfrannu tuag at yr elusen – y Ganolfan Gelfyddydau yw hon – nid MEC.
  • Byddwn ar gael yn y swyddfa i ateb cwestiynau os oes angen.